Y 5 car mwyaf diogel i'w prynu yn 2018

Mae ceir yn mynd yn fwy diogel bob blwyddyn, a gyda thechnoleg diogelwch gweithredol ar y blaen, mae’n debygol y bydd ceir 2018 yn hyd yn oed mwy diogel.

Mae sefydliad annibynnol Euro NCAP wedi datgelu beth oedd wedi profi i fod yn y 5 car mwyaf diogel yn 2017. Cafodd pob un o’r 5 cerbyd sgôr lawn o bum seren, felly os ydych chi’n chwilio am gar newydd gall y rhain fod yn le da i ddechrau… 

  • “Off-Road” Mawr: Volvo XC60

Mae’r safle cyntaf yn mynd i’ Volvo XC60, a sgoriodd 100% mewn dau o brofion diogelwch Euro NCAPs. Cafodd pobl ffug eu hamddiffyn yn effeithiol rhag “whiplash” mewn damwain prawf yn y 4x4 mawr hwn ac fe sgoriodd ei system brecio mewn argyfwng y marciau uchaf. 

  • “Off-Road” Bach: VW T-Roc

Dyfarnwyd tri o’r pum safle uchaf i geir Volkswagon, gan ddechrau gyda’r SUV bach hwn sydd gyda system brecio mewn argyfwng dinasol awtomatig, yn ogystal â rhybuddion i yrwyr os maent yn symud allan o’u hochr nhw o’r lôn.

  • Gweithredaeth: VW Arteon 

Mae “active bonnet” y car hwn – sydd gyda synwyryddion yn y bymper sydd yn canfod pan fydd cerddwr wedi cael ei daro ac yn codi’r boned i liniaru'r anafiadau sydd yn cael eu creu a’u hargraffu yn y prawf cymorth diogelwch.

  • “Supermini”: VW Polo 

Yn profi ymrwymiad gwneuthur ceir yr Almaen i wella diogelwch cerbydau, mae Volkswagon yn parhau i fod yn llwyddiannus gyda thrydydd enillydd, y fersiwn diweddaraf o’r “stable Polo”.

  • Car Bach Deulu: Subaru XV a Subaru Impreza 

Mae dau fodel Subaru yn cael eu dyfarnu ar y cyd yn y categori hwn, gyda’r ddau yn sgorio 89% yn y profion deiliad plant – yn uwch nag unrhyw fodel arall yn y pump uchaf.

Angen Yswiriant Modur ar gyfer eich cerbyd? Cysylltwch â'n tîm profiadol a byddwn yn hapus i gynnig cyngor annibynnol i chi a gwneud y gwaith called ar eich cyfer.

 

Ffynhonnell: https://www.brokernetworkmarketing.co.uk/car-insurance/top-5-safest-cars-buy-2018/