Y frwydr am y bleidlais i ferched yng Nghymru

Cynhaliwyd y cyfarfod ymwybodol cyntaf yng Nghymru i drafod pleidlais i fenywod ym mis Mehefin 1870 gan Rose Crawshay yn ei chartref. Yn dilyn hyn, cafodd ei chyhuddo gan bapurau lleol o arwain merched Cymru i ymyrryd ac aflonyddu heddwch.

Ffurfiwyd y gangen gyntaf o’r Undeb Cenedlaethol Cymdeithasau Rhyddfreinio Merched (NUWSS) yng Nghymru yn 1907. Ffurfiwyd y gangen mewn cyfarfod yn Llandudno ble daeth Mrs Walton-Evans yn llywydd . Sefydlwyd canghennau eraill yn fuan yn cynnwys yng Nghaerdydd, Y Rhyl, Conwy a Bangor.

Roedd Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched (WSPU) yn fwy milwrol a ddim ond 5 cangen oedd yng Nghymru yn 1913 i gymharu gyda 26 cangen yr NUWSS. Yn y blynyddoedd cyn y rhyfel trefnodd NUWSS ymgyrchoedd addysgol a phreifat yng Ngogledd Cymru.

Er gwaethaf fod David Lloyd George yn honni ei fod o blaid pleidleisiau i fenywod, credir nad oedd hyn yn wir a'i fod yn wrth-swffragét yn gyfrinachol ac yn aml roedd yn cael ei dargedu gan y swffragetiaid.

Yn 1912 roedd cynnydd mewn gweithredoedd milwrol yng Nghymru. Amharodd WSPU ar araith yng Nghaernarfon, cafodd y protestwyr, dynion a merched eu trin yn wael gyda’u gwallt yn cael eu tynnu allan, dillad wedi yn cael eu rhwygo a fe’u hymosodwyd gyda ffyn ac ymbarelau. Cafodd Lloyd George ei heclo gan swffragetiaid yn yr un flwyddyn wrth siarad yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam. Fe ddigwyddodd un o'r digwyddiadau mwyaf enwog yn hanes Hanes Swffragetiaid Cymreig y flwyddyn honno hefyd yn nhref gartrefol Lloyd George, Llanystumdwy. Cafodd ei heclo tra oedd yno i agor neuadd bentref. Ymosododd y dorf ar yr heclwyr gydag un bron yn cael ei thaflu oddi ar bont ar y creigiau.

Fe drefnwyd yswiriant ychwanegol ar gyfer Eisteddfod y Fenni yn 1913 yn dilyn ofnau y byddai’r WSPU yn ceisio gosod y pafiliwn ar dân. Parhaodd Lloyd George i dderbyn gweithreda gan y swffragetiaid gyda thŷ oedd yn cael ei adeiladu iddo yn cael ei fomio yn 1913. Gosodwyd bomiau hefyd yng Nghaerdydd a'r Fenni a chafodd gwifrau telegraff eu torri yn Llantarnam. Fe arestiwyd un o swffragetiaid mwyaf enwog Cymru, Margaret Haig Thomas yn 1913 ar ôl cael ei ffeindio yn euog o osod blwch post yng Nghasnewydd ar dân. Fe'i rhyddhawyd o'r carchar ar ôl iddi fynd ar streic newyn.

Aeth nifer o fenywod Cymru ar Bererindod i Lundain yn haf 1913. Fe aeth 28 aelod o ganghennau NUWSS Cymru o Fangor ar yr ail o Orffennaf ac fe aeth cangen arall o Gaerdydd ar y 7fed o Orffennaf.

Cyfarfydd merched o amryw o lefydd yn Ne Cymru yng Nghaerdydd ger Neuadd y Ddinas a'r Llysoedd Cyfraith, roedd hyn yn adlewyrchiad o'u lle ym mywyd cyhoeddus. Roedd nifer hefyd yn gwisgo gwinau i ddangos eu bod yn raddedigion neu'n fyfyrwyr yn ogystal â rhai yn gwisgo gwisgoedd nyrsio i ddangos y dylid adlewyrchu'r hyn a gyflawnwyd ganddynt ym mywydau eu hunain ym mywyd cyhoeddus. Yna fe orymdeithiasant i Gasnewydd, gan gynnal cyfarfodydd ar hyd y ffordd cyn ymuno â merched yn o Fryste, Dyfnaint a Chernyw.

Dechreuodd y pererinion yn gynharach o Ogledd Cymru oherwydd bod Llundain yn bellach, a fe chyfarfydd y merched ym Mangor er mwyn cychwyn y daith. Mae cofnod manwl o'r digwyddiad hwn wedi'i ddogfennu a chredir mai geiriau Charlotte Price White, un o brif arweinwyr y mudiad ym Mangor ac a fu'n fyfyriwr yn y coleg hyfforddi ym Mangor. Soniodd am sut roedd eu cyfarfodydd ar hyd arfordir Gogledd Cymru yn denu cefnogwyr lleol i'w gorymdeithiau, a tra y byddai'n siarad roedd hi'n anghofio am ei hunanymwybodol a ddim ond yn cofio'r neges fwy i’w rannu sef rhannu pwrpas uwch a rhyddid.

Ymunodd merched o Ogledd Cymru â merched o Garlisle a Lerpwl yn Stafford ac yna aethant ymlaen i orymdeithio gyda'i gilydd. Yn aml, roedd awdurdodau yn amharu ar eu cyfarfodydd er gwaethaf eu bod yn heddychlon.

Ar ôl cyrraedd Llundain cynhaliwyd protest yn Hyde Park ble roedd yr ymgyrchwyr yn ogystal â phobl eraill a oedd yn cefnogi'r mudiad yn bresennol. Tybiwyd fod 50,000 o bobl wedi mynychu, gan gynnwys llawer o ddynion.

Sefydlwyd ysgol haf gan NUWSS yn Nyffryn Conwy a oedd yn hyfforddi'r aelodau mewn siarad cyhoeddus a chynyddodd cyfraniad y dosbarth gweithiol gyda changen yn cael ei sefydlu yn Nhon Pentre’ yn y Rhondda ym 1914, a arweiniwyd gan Elizabeth Andrews.

Ennill y bleidlais

Er gwaethaf y gweithgareddau gan y swffragetiaid, nid oedd pleidleisiau i ferched yn flaenoriaeth i'r llywodraeth cyn y rhyfel. Ond roedd yn amhosib gwrthod y blaid i fenywod ar ôl eu cyfraniad at ymdrech y rhyfel - yn 1918 roedd marched oedd 83% o weithle Ffatri Shell Casnewydd.

Pasiwyd Deddf Cynrychiolaeth y Bobl ym 1918. Er mwyn cadw gwrthwynebwyr pleidleisiau i fenywod yn hapus, dim ond menywod dros 30 oed a oedd yn berchnogion tai neu'n briod i berchennog tŷ a chaniateir i bleidleisio, a oedd yn golygu bod dynion yn parhau i fod y mwyafrif o'r etholwyr. Yng Nghymru, cynyddodd yr etholaeth o 430,000 i 1,172,000.

Swffragetiaid Cymreig

Mae'n debyg mai Margaret Mackworth yw'r swffragét Cymraeg mwyaf adnabyddus, merch Sybil Thomas. Roedd Millicent Mackenzie ac Amy Dillwyn hefyd yn weithredwyr pwysig yng Nghymru ar gyfer yr achos. Roedd Alice Abadam, siaradwr ac actifydd enwog, yn ferch i Uchel Siryf Sir Gaerfyrddin. Yn ddiweddarach daeth yn gadeirydd y Cyngor Ffederal Mudiad y Swffragetiaid. Roedd Rachel Barrett, athrawes wyddoniaeth o dde Cymru, yn enwog o fewn y WSPU a chafodd ei dewis gan Annie Kenney i gynorthwyo i redeg ymgyrch cenedlaethol WSPU o 1912. Roedd hi hefyd yn olygydd cynorthwyol ‘The Suffragette’.

Roedd undebwyr llafur Vernon Hartshorn a George Barker yn gefnogwyr lleisiol i’r mudiad pleidleisio, tra cafodd James Grant, propagandydd sosialaidd a gwerthwr brwd o’r ‘The Suffragette’, ei garcharu am bum diwrnod ar ôl cael ei arestio am rwystro wrth ddarlithio yn Sgwâr Treorci. Treuliodd Mary Keating Hill, gwraig rheolwr yswiriant Caerdydd, dair wythnos yn y carchar am wrthsefyll yr heddlu ac ymddygiad anhrefnus. Roedd hi wedi cael sefyllfa debyg o'r blaen ond talodd ei brawd y ddirwy; ond roedd hi'n benderfynol o gael ei charcharu. 

 

Merched yng Nghaernarfon yn ymgyrchu am y bleidlais, llun gan Sue Morris

Ffynhonnell: https://www.walesonline.co.uk/lifestyle/nostalgia/welsh-women-who-took-long-12577954 https://en.wikipedia.org/wiki/Women%27s_suffrage_in_Wales