Ydi eich cartref wedi ei warchod yn erbyn difrod llifogydd?
Gall ddifrod llifogydd fod yn ddrud i’w trwsio gyda’r gost o sychu, trwsio ac adfer eich eiddo, trwsio neu ail brynu eitemau sydd wedi’u difrodi yn ogystal â chostau llety tra nad yw’n bosib i chi aros yn eich cartref. Dyna pam mae’n hanfodol fod gennych chi bolisi yswiriant fydd yn eich arbed rhag rhestr hir o gostau ac yn amddiffyn eich cartref rhag niwed llifogydd.
Dyma rywfaint o gamau y gallwch eu cymryd i amddiffyn eich cartref rhag difrod llifogydd:
- Bagiau tywod hunan-ymledu:Nid yw’r dyluniadau diweddaraf yn defnyddio tywod, ond gallan amsugno cymaint â 13 litr o ddŵr mewn 5 munud.
- Cynnal a gwella systemau draenio y cynlluniwyd i symud dŵr llifogydd i ffwrdd.
- Creu system rwystro o gwmpas eich cartref i helpu ailgyfeirio llif y dŵr i ffwrdd.
- Rhowch eich eitemau gwerthfawr ar silffoedd uchel
- Hongian eich teledu ac offer trydanol eraill megis systemau clywedol oddi ar waliau yn hytrach na’u gosod ar unedau.
- Gallwch brynu bordau sgertin sy’n gallu gwrthsefyll dŵr
- Gallwch brynu pympiau a’u gosod o dan y llawr i gael gwared o ddŵr llifogydd
- Diogelu waliau trwy ddefnyddio plastr calch neu creu system ddraenio mewn waliau ceudod
- Defnyddio teils yn hytrach na charpedi fel llawr a fydd yn gwrthsefyll difrod dwr ac yn haws i’w glanhau a’u trwsio
- Bydd drysau a fframiau ffenestri synthetig neu gwyr yn gwrthsefyll difrod dŵr
- Dewiswch ddeunyddiau sy’n gallu gwrthsefyll dŵr megis dur, plastig neu bren solid ar gyfer dodrefn a ffitiadau ar gyfer eich cegin ac ystafelloedd ymolchi
- Codwch socedi trydan fel eu bod o leiaf 1 metr yn uwch na lefel y llawr a sicrhewch nad oes wifrau ar neu yn is na lefel y llawr
Mae’r camau yn helpu lleihau'r perygl o lifogydd ond ni fyddant y 100% effeithiol os bydd yno ormod o ddŵr. Felly, sicrhewch fod eich cartref wedi ei yswirio bob amser.