AMDANOM NI

Broceriaid Yswiriant Annibynnol

Sefydlwyd ym 1987, a sefydlwyd Tarian fel busnes brocer annibynnol ym 1999 ar ôl ailstrwythuro’r cwmni gwreiddiol.

Mae Tarian yn frocer traddodiadol sy’n canolbwyntio ar y dyfodol, ac mae ei wasanaeth dwyieithog yn cynnig gwefan lawn, llinell ffôn a gohebiaeth ar ffurf negeseuon e-bost i’n cwsmeriaid personol a masnachol yn Gymraeg ac yn Saesneg

Broceriaid lleol, gwasanaeth personol

Rydym wedi’n lleoli yn nhref hanesyddol Caernarfon yng Ngogledd Cymru. Rydym yn adnabyddus am wasanaeth wyneb-yn-wyneb traddodiadol sydd i’w gael gan  frocer stryd fawr.

Rydym wedi ehangu ein gwasanaethau ar-lein i gynnig yr un gwasanaeth dibynadwy ac addas i’r unigolyn.

Rhan o’r darlun ehangach

Fel aelod o Broker Network, prif rwydwaith y DU ar gyfer broceriaid yswiriant annibynnol, rydym yn gallu cael gafael ar gyfoeth o gynhyrchion ac i ysgrifenwyr arbenigol na fyddent ar gael fel arall, gan roi’r ystod i ni greu polisi pwrpasol ar gyfer ein cwsmeriaid unigol a busnes ar gyfradd sy’n gystadleuol.

Cysylltwch â ni



    * Maes gofynnol.
    Rydym yn ceisio ymateb i bob ymholiad cyn pen dau ddiwrnod gwaith. Peidiwch â chyflwyno unrhyw ddata sensitif.