Cwrdd â’r tîm

 

 

Gillian Parry-Jones
Director

Mae Gillian wedi bod gyda Tarian ers y dechrau bron, yn ôl ym 1987. Cychwynnodd Gillian adran llinellau personol Cwmni Tarian Cyf, a wnaeth gychwyn fel Cynghorwyr Ariannol. Daeth yn gyfarwyddwr ym 1989 cyn dod yn unig Gyfarwyddwr Tarian (Yswiriant) Cyf ym 1999. Yn ogystal, mae Gillian yn Gyfarwyddwr : • Siop Morgeisi Direct Mortages Limited, sy'n darparu cynhyrchion oes a morgeisi. • Tractors Menai Tractors Cyf, y mae ei gŵr Robat yn ei redeg. Mae'r cwmni yn gwerthu offer amaethyddol ac maent yn brif werthwyr New Holland.

Gwilym Roberts

Mae Gwilym wedi bod gyda Tarian (Yswiriant) Cyf ers dros 20 mlynedd. Ganwyd Gwilym ym Mlaenau Ffestiniog ac yna, cafodd ei fagu yng Nghaernarfon a chafodd ei addysg yn Ysgol Syr Hugh Owen. Ar ôl treulio blwyddyn yng Nghaerloyw yn astudio cyfrifiadura, dychwelodd i Ogledd Cymru, gan raddio o Brifysgol Cymru Bangor, Y Coleg Normal.Dechreuodd Gwilym weithio i Cwmni Tarian Cyf ym mis Medi 1991 ac yna, o fis Chwefror 1999, i Tarian (Yswiriant) Cyf.Mae Gwilym yn byw yng Nghaernarfon gyda'i bartner a dau o blant.

Darren Batsford

Ymunodd Darren gyda Tarian ym mis Mai 2012 ac mae ganddo dros 10 mlynedd o brofiad yn y diwydiant yswiriant. Cyn ymuno â Tarian, bu Darren yn gweithio yng Ngwasanaethau Yswiriant Lyon yng Nghaergybi, lle y bu'n delio gyda'u cynllun Gwestai a Chartrefi Gwyliau, yn ogystal â pholisïau Aelwydydd a Masnachol. Mae gan Darren brofiad o ddelio gyda phob math o yswiriant ac mae'n fodlon eich helpu gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych gyda'ch polisi Aelwyd, Modur neu Fasnachol. Y tu allan i'r gwaith, mae Darren yn mwynhau darllen, chwarae dartiau a dilyn Clwb Pêl-droed Everton.

Lynne Thomas

Mae Lynne wedi bod yn gweithio i Tarian er 2008, ac yn flaenorol, bu'n gweithio i Siop Morgeisi Direct Mortgages Limited am dros 6 blynedd. Mae Lynne yn brofiadol ym maes yswiriant llinellau personol, a bydd yn falch o'ch helpu gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych am yswiriant modur, cartref neu deithio. Mae Lynne yn byw gerllaw ym Montnewydd gyda'i phartner, ac mae'n mwynhau teithio a chefnogi ei thîm pêl-droed, sef Clwb Pêl-droed Lerpwl.

Gwen Tomos

Ymunodd Gwen gyda Tarian dan drefniant amser llawn yn 2011 ar ôl treulio sawl blynedd yn gweithio i Tarian yn ystod yr haf. Magwyd Gwen yn Nant Peris ac aeth i Ysgol Brynrefail cyn graddio o Brifysgol Cymru, Bangor. Mae Gwen yn brofiadol ym maes yswiriant llinellau personol, a bydd yn falch o'ch helpu gydag unrhyw ymholiad sydd gennych am yswiriant modur, cartref neu deithio. Mae Gwen yn mwynhau coginio, cerdded, siopa a mynd i weld bandiau byw.