Croeso i Tarian

Croeso i Tarian.  Rydym yn froceriaid yswiriant annibynnol yng Nghaernarfon.  Darparir ein datrysiadau yswiriant personol ar gyfer busnesau ac unigolion yn Gymraeg ac yn Saesneg ar-lein a dros y ffôn.

Gyda chymorth rhwydwaith eang o yswirwyr sefydledig, mae modd i'n tîm cyfeillgar a phrofiadol yn Tarian greu polisi sy'n addas i'ch gofynion chi, os ydych yn gwmni cynhyrchu ffilmiau sy'n dymuno diogelu'ch prosiect, neu os ydych yn chwilio am bolisi yswiriant ar gyfer y cartref, sy'n fwy addas i chi a'ch eiddo.

Am wasanaeth dwyieithog o ansawdd uchel gan frocer stryd fawr ac y mae ganddo bresenoldeb cadarn ar-lein, cysylltwch â Tarian a chawn weld sut y gallwn dawelu eich meddwl chi gyda'r yswiriant cywir.

Ffrwd Newyddion

Darllen Mwy

Twitter

  • Even if it isn't yet part of your policy, a dashcam could help you in the event of a claim: https://t.co/pNguRMrvNa

  • Proud to be involved in such a successful event #tallships2016 https://t.co/NN2WtNmu0v

  • Insurance Premium Tax (IPT) rises again, but why do we even need it?https://t.co/N33RAQO9oS

Darllen Mwy

Yr hyn y maent yn ei Ddweud...

Mr Iorwerth Williams

Mae wastad yn bleser siarad gyda staff cyfeillgar Tarian ac maent yn darparu gwasanaeth effeithlon a phroffesiynol ar ein cyfer.  Rydym yn fwy na bodlon rhoi ein hanghenion yswiriant yn eu gofal nhw, ac ni fyddem yn petruso eu hargymell i'n cleientiaid

Mr Iorwerth Williams, Partner, Cyfrifwyr Dunn & Ellis, Porthmadog

Tudur Williams

Mae gwybod bod Tarian yn gofalu am ein polisïau yswiriant yn golygu bod gennyf un beth yn llai i ofidio amdano, ac mae modd i mi fwrw ymlaen gyda'r gwaith o redeg fy musnes.  Maent yn gwrtais ac o gymorth, ac maent bob amser yn chwilio am y cynnig gorau i ni heb gyfaddawdu ar y sicrwydd.

Tudur Williams, T W Williams & Son Ltd, Pwllheli